Trydan Gwyrdd Cymru (Trydan), yw datblygwr ynni adnewyddol Cymru, a Llywodraeth Cymru yw’r perchennog. Rydym yn chwilio am leoliadau ar gyfer ffermydd gwynt newydd gyda storfa ynni batri o fewn nifer o ardaloedd sy’n berchen i Stad Goedwigoedd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Coedwig Clocaenog. Mae'r safle hwn tua 8km i'r de-orllewin o Ruthun, o fewn Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Bwriad Trydan yw datgloi potensial ynni adnewyddol Cymru. Mae’r prosiect yn bwriadu gwneud y mwyaf o werth tir ac adnoddau naturiol er lles pobl Cymru, trwy ddatblygu ynni adnewyddol ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, fel stad Coedwig Clocaenog.
Mae gwaith dichonoldeb cychwynnol yn dangos y gallai Fferm Wynt Clocaenog Dau ddarparu hyd at 22 o dyrbinau gwynt modern, hynod effeithlon. Byddai'r prosiect yn gwneud cyfraniad pwysig at fynd i'r afael â newid hinsawdd trwy ddarparu hyd at 132 MW o drydan glân. Mae hyn yn cyfateb i anghenion trydan blynyddol hyd at 117,500 o gartrefi arferol yng Nghymru. [1]
Er ei bod yn parhau i fod yn goedwig weithredol, mae'r goedwig 6,000 hectar yn darparu elfennau hamdden hefyd trwy’r llwybrau cerdded braf a beicio poblogaidd. Mae hefyd yn gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt, gan gynnwys gwiwerod coch a phoblogaeth ucheldir o bathewod prin.
[1]Defnydd trydan cyfartalog y flwyddyn = 132 NW (capasiti a osodwyd) x 0.3082 (cyfanswm ffactor llwyth gwynt) x 8760 awr / 3.032 MWh. Ffynhonnell: Renewable UK UK Wind Energy Database https://www.renewableuk.com/energypulse/ukwed/ Defnydd trydan domestig cymedrig fesul gwlad / rhanbarth. Ffynhonell DESNZ Subnational Electricity and Gas Consumption Statistics Regional and Local Authority, Great Britain, 2022

Dyfyniad gan y rheolwr prosiect
"Mae hwn yn safle gwych ar gyfer fferm wynt, fel rydyn ni’n gweld eisoes gyda Fferm Wynt Coedwig Clocaenog sydd eisoes yn weithredol.
"Dwi’n edrych ymlaen at fynd i gyfarfod pobl leol i rannu’r syniadau ar sut y gallwn ni wneud hwn y prosiect gorau posibl i Siroedd Dinbych a Chonwy, yr ardaloedd cyfagos, ac i Gymru gyfan."
Adam Dempsey, Rheolwr Prosiect Fferm Wynt Clocaenog Dau.

Pam rydym wedi dewis y safle hwn?
Mae llawer o fannau yng Nghymru yn safleoedd rhagorol ar gyfer ynni gwynt ar y tir. Gan ein bod yn agos at Fôr yr Iwerydd, mae'r gwynt yn aml yn chwythu'n gryf yma, yn enwedig ar fryniau a thiroedd yr ucheldir.
Mae safleoedd Trydan naill ai'n anghysbell neu wedi eu lleoli ym mhell o ardaloedd poblog niferus. Yng nghyd-destun prosiect Clocaenog Dau, mae'r gweithredu masnachol sydd eisoes yn digwydd yn y goedwig yn gwneud defnydd da o'r tir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru. Trwy weithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, gallwn reoli'r gofod hyd yn oed yn well, drwy roi seilwaith ynni adnewyddol sy’n ddirfawr angen ar Gymru dros y blynyddoedd nesaf.
Amserlen ddangosol
Dod i adnabod y safle a'i nodweddion ffisegol, (e.e. pa mor gryf a chyson mae'r gwynt yn chwythu ar draws yr ardal sydd o ddiddordeb i ni?) a chasglu data penodol ar gynefinoedd (e.e. priddoedd) a rhywogaethau.
Oeddech chi'n gwybod y byddwn yn cynnal arolygon adaregol ac ecolegol sylweddol i ddeall y safle'n llawn? Ystyried llwybrau mynediad ar gyfer cludo llafnau tyrbinau gwynt i'r safle. Siarad â phobl a all ein helpu i ddeall y cyd-destun lleol.
Rhannu gwybodaeth gynnar am y prosiect a thrafodaethau cychwynnol am y prosiect gyda phobl leol.
Dechrau ymgysylltu â chymunedau lleol drwy fynychu cyfarfodydd a digwyddiadau.
Byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus anffurfiol, gan gynnwys cynnal digwyddiadau lleol, a gwrando ar yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym.
Mae tipyn o ffordd i fynd o hyd cyn bod ein dyluniad wedi'i gwblhau, ac mae adborth lleol yn bwysig i'n helpu i fireinio'r dyluniad sy'n esblygu.
Byddwn yn cyflwyno Adroddiad Cwmpasu i'r arolygiaeth gynllunio, Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW), sy'n disgrifio'r prosiect ac yn gofyn am adborth PEDW ar ein cynlluniau cynnar.
Byddwn yn gwneud cais i Gyngor Sir Dinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am ganiatâd cynllunio i godi mast meteorolegol ar y safle i fesur yr adnodd gwynt.
Byddwn yn parhau i siarad â phobl a gwrando arnynt.
Bydd yr holl adborth a dderbyniwn yn llywio'r cynlluniau a gyflwynir ar gyfer caniatâd cynllunio.
Ochr yn ochr â'r cais cynllunio, byddwn yn cyflwyno adroddiad ymgynghori, yn disgrifio'r ddeialog yr ydym wedi'i chynnal i glywed barn y gymuned a rhanddeiliaid, a sut yr ydym wedi'u hymgorffori yn ein dyluniad.
Penodir Arolygydd Cynllunio annibynnol i archwilio'r cais cynllunio, gan gynnwys yr holl sylwadau.
Yr Arolygydd sy'n penderfynu a oes angen gwrandawiad, ymchwiliad, neu sylwadau ysgrifenedig ychwanegol. Os felly, gallai'r Arolygydd wahodd partïon â diddordeb i gymryd rhan.
Yn dilyn argymhelliad gan yr Arolygydd.
Os caiff y cais cynllunio ei gymeradwyo, byddai unrhyw amodau a osodwyd ar y caniatâd cynllunio yn cael eu cyflawni ar y cyd â Chyngor Sir Dinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Byddai gwaith adeiladu i baratoi'r safle yn dechrau.
Amcangyfrifir hyd o 18-24 mis.
Cytunir ar Gynllun Rheoli Trafnidiaeth Adeiladu gyda'r awdurdod lleol ac mae'n nodi cyfyngiadau ar lwybrau trafnidiaeth ac oriau gwaith.
35 mlynedd o gynhyrchu ynni glân, adnewyddadwy a gwireddu buddion i Gymru.